Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag
Cofnodion y Cyfarfod
12/5/15
Yn bresennol: Aled Roberts AC (Cadeirydd); Jackie Radford (Ysgrifennydd); Jean Dowding; Tristan Humphreys; Norma McGough; Dr. Geraint Preest; Dr. Jill Swift; Ajay Kenth; Henry Wilkins; Bronwen Wilkins; Lindsey Morgan; Rhun ap Iorwerth AC; Graham Phillips; Mike Hedges AC; Jeff Cuthbert AC; Bill Hyde; Kathy Hyde
Ymddiheuriadau: David Rees AC; Angela Burns AC; Carol Carpenter; Heather Stephen.
Materion yn codi
Y wybodaeth ddiweddaraf
Cyfarfod nesaf: Dydd Iau, 15 Hydref, Gogledd Cymru (yr union leoliad i'w gadarnhau)
Crynodeb o'r camau i’w cymryd:
Camau i’w cymryd |
Pwy |
Diweddariad |
Anfon ymatebion BILl at bob aelod; Anfon llythyrau dilynol lle y bo'n briodol; a rhoi gwybod i Henry os na cheir ymateb gan Hywel Dda |
JR |
Mae’r ymatebion a ddaeth i law hyd at 27/5 ynghlwm (6) Angen anfon llythyr dilynol at Hywel Dda
Ni chafwyd ymateb gan Hywel Dda hyd yma |
Coeliac UK i edrych ar Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol ac asesu a fyddai’n briodol cynnwys canllawiau ar groeshalogi ynddo; Anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd os oes unrhyw ansicrwydd |
TH
AR. |
Mae copi o ymateb y Gwasanaeth Ymchwil isod i TH ei ddarllen.
|
Ymateb i etholwr MH |
JR/TH/NM |
Mae gan MH fanylion cyswllt TH yn awr ac mae wedi drafftio ac anfon ymateb. |
Gwahodd Dr Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, i gyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol |
JS |
Mae JS wedi dweud wrth JR y byddai’n fwy priodol gwahodd Dr John Green sy’n aelod o’r pwyllgor gwasanaethau endosgopi y mae’r Dr Chris Jones yn ei gadeirio. Mae’n gweithio fel gastroenterolegydd ac yn aelod o dîm asesu JAG. Mae JR aros i JS gadarnhau y bydd Dr. Green yn dod i gyfarfod yng Nghaerdydd, yn hytrach na Gogledd Cymru. |
Anfon templed o ddatganiad i'r wasg at yr Aelodau a oedd yn y lansiad a/neu gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar 12/5. |
JR |
Anfonwyd y templed ar 13/5 |
Brandio ar gyfer digwyddiadau’r ymgyrch ym mis Gorffennaf yng Nghaerdydd i fod yn ddwyieithog |
TH/NM |
|
Ymateb y gwasanaeth ymchwil:
Mewn ymateb i'ch ymholiad yn gofyn a oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol i ymdrin â materion fel croeshalogi glwten, darparu bwyd heb glwten a hyfforddi staff gofal cartref i godi eu hymwybyddiaeth o groeshalogi:
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Nid yw’r Bil yn cyfeirio o gwbl at y materion hyn. Mae'n bosibl y gellid sicrhau bod staff gofal cartref yn cael hyfforddiant o’r fath drwy wneud rheoliadau o dan ran 5 (adrannau 111-115) neu adran 26 o'r Bil.
Rhan 5
Mae darpariaethau cyffredinol yn rhan 5 o'r Bil yn ymwneud â hyfforddiant i staff gofal cymdeithasol cofrestredig – fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai hyn yn cynnwys rheolwyr cartrefi gofal ond nid staff gofal cartref (nad yw’n ofynnol iddyn nhw gofrestru).
Mae crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil yn nodi’r canlynol:
2.2.5 Safonau gweithwyr gofal cymdeithasol
Mae rhan 5 (adrannau 111 – 115) yn canolbwyntio ar safonau ymddygiad, datblygiad proffesiynol ac addysg i weithwyr gofal cymdeithasol.
Mae adran 111 yn nodi bod yn rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru baratoi, cyhoeddi ac adolygu codau ymarfer sy’n pennu'r safonau ymddygiad ac arfer a ddisgwylir gan weithwyr gofal cymdeithasol, a’r rhai sy’n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.
[…]
Mae adran 112 yn nodi y caiff Gofal Cymdeithasol Cymru wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sydd wedi eu cofrestru ('gweithwyr gofal cymdeithasol') gwblhau hyfforddiant ychwanegol a datblygiad proffesiynol parhaus. Caiff Gofal Cymdeithasol Cymru gymeradwyo ac arolygu cyrsiau perthnasol (adrannau 113 - 114) a rhaid iddo gynnal a chyhoeddi rhestr o’r cyrsiau y mae wedi eu cymeradwyo. Hefyd, caiff Gofal Cymdeithasol Cymru ddarparu cwrs newydd os oes angen, neu sicrhau y caiff ei ddarparu, a gofalu bod grantiau ar gael i sicrhau a darparu’r hyfforddiant (adran 115).
DS: Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff newydd sy’n rheoleiddio’r gweithlu. Mae wedi disodli Cyngor Gofal Cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol
Byddwn yn disgwyl i reoleiddiwr y gweithlu ddefnyddio ei bwerau newydd a'i swyddogaeth ym maes hyfforddi a datblygu'r gweithlu i ganolbwyntio ar reolwyr gofal a gofal a chymorth - gan feithrin gallu i ddatblygu yng Nghymru a deall galw a chyflenwad yn y dyfodol.
Felly, o dan ran 5 o'r Bil mae'n bosibl y gallai Gofal Cymdeithasol Cymru wneud rheol sy’n ei gwneud yn ofynnol i reolwyr cartrefi gofal ymgymryd â hyfforddiant (a allai gynnwys hyfforddiant ar faterion croeshalogi); ond ni allai ei gwneud yn ofynnol i holl staff cartrefi gofal ymgymryd â hyfforddiant o'r fath (gan nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru â’r rheoleiddiwr) - ni allai hyn ddigwydd oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rheoliadau ar ôl pasio’r Ddeddf i’w gwneud yn ofynnol i staff cartrefi gofal gofrestru.
26 Rheoliadau ynghylch gwasanaethau a reoleiddir
Mae'r adran hon yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, drwy wneud rheoliadau, osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth. Gallai’r rhain gynnwys pennu safon y gofal a'r cymorth y mae'n rhaid ei ddarparu. Felly mae'n bosibl, er enghraifft, y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n datgan bod yn rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod staff y cartref gofal wedi'u hyfforddi'n briodol.
Bil Iechyd y Cyhoedd
Mae'n bosibl y gallai’r Bil Iechyd y Cyhoedd ymdrin â materion o’r fath. Mae’r Papur Gwyn ar y Bil Iechyd y Cyhoedd yn cynnwys cynigion i gyflwyno safonau maeth mewn cartrefi gofal. Mae'n nodi y byddai hyn yn adeiladu ar y safonau maeth ar gyfer ysbytai (sy'n cyfeirio at fwydydd heb glwten), a byddai'n cael ei wneud drwy is-ddeddfwriaeth a/neu ganllawiau. Yn ôl Llywodraeth Cymru, caiff Bil Iechyd y Cyhoedd ei chyflwyno 'cyn toriad yr haf'.